Vauxhall Cross, pencadlys MI6 | |
Enghraifft o'r canlynol | asiantaeth cudd-wybodaeth |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1909 |
Pennaeth y sefydliad | Chief of the Secret Intelligence Service |
Sylfaenydd | Mansfield Smith-Cumming |
Rhagflaenydd | Directorate of Military Intelligence |
Rhiant sefydliad | Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad |
Pencadlys | Llundain, Vauxhall Cross |
Gwefan | https://www.sis.gov.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
MI6 yw'r enw arferol a roddir ar y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol[1] (Saesneg: Secret Intelligence Service neu'r (SIS)), un o asiantaethau diogelwch y Deyrnas Unedig. Y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol yw asiantaeth cudd-ymchwil allanol y Deyrnas Unedig, sy'n rhan o gymuned cudd-ymchwil y wladwriaeth honno. Mae'n cyd-weithio â'r Gwasanaethau Diogelwch (MI5), Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth a'r Gweithlu Cudd-ymchwil Amddiffyn o dan gyfarwyddyd y Pwyllgor Cudd-ymchwil ar y Cyd (y Joint Intelligence Committee (JIC)). Syr John Scarlett yw'r pennaeth presennol.[2]
Ers 1995, lleolir pencadlys y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol yn Vauxhall Cross ar lan ddeheuol Afon Tafwys, yn Llundain.